y sws mewn pinc
testun dylan huw
25/03/23
Sws / diwedd — ar achlysur diwrnod olaf y sws mewn pinc, a’r patsh yma o ganol ein prifddinas
I’m reading a new text I’ve written for this afternoon, it’s mostly in Welsh, and it’s kind of a meander through some of the different places that this body of work around us has lived, and this room, and this city
Yn y dechreuad, yr oedd yr haul yn dod fel blode trwy’r ffenest. Ar y diwedd mae cyrff mewn stafell wen
o dan ddinas sy’n gwneud hi’n anodd, yn aml,
gyda celf o’n cwmpas, a rhyngom, ac uwch ein pennau.
Dwi wedi bod yn troelli a throelli a dychmygu a dileu sawl fersiwn o’r darn yma yn yr wythnosau ers i’r sws mewn pinc agor. Mae wedi bod yn gyfnod llethol, a llawn anobaith ac aneglurdeb — nagyw e — a dwi di bod yn cael hi’n anodd cael munud i feddwl, i fodoli ar unrhyw rhythm ond rhythm y stop-start, stop / start.
Mae unrhyw un sydd wedi treulio amser gyda gwaith Esyllt yn gwybod ei bod yn cynnig ei hun yn naturiol fel remedi i'r cyflwr hwn. Gad i ni beidio meddwl na pharatoi gormod, gad i ni wneud be ni’n gallu i ysgwyd i ffwrdd y strwythurau sy’n gwneud pethe’n anodd, gad i ni chwarae, gad i ni jyst bod. Jyst gwneud clai o iaith a
bwa o
natur a
a gadael i bethau —— flaguro.
Roedd un fersiwn gynnar o’r darn yma’n dechrau fel hyn:
Pinc yw lliw emoji sws, a lliw sws go iawn, a lliw cyhyr. ....
Dwi’n falch i fi roi gore ar y darn yna.
Ar un pwynt roeddwn i’n mynd i sgwennu testun o safbwynt y generator sydd ar top yr adeilad ni’n sefyll ynddo ar hyn o bryd, sef, yn ôl y sïon, yr unig reswm dyw perchnogion yr adeilad ddim yn dymchwel yr holl beth, a jyst yn blocio rhannau o fe i ffwrdd rhag y cyhoedd yn lle. Rhywbeth rhywbeth am y syniad o gynhyrchiant, rhyw drosiad neu gilydd am gynhyrchu egni mewn gwahanol ffyrdd, am y mathau o waith sy’n cael eu clodfori, am y ffordd mae’r ddinas yma’n gweld ei hun. Tynnu at ei gilydd rhyw gysylltiadau ynghylch darparu a chreu trydan a syniadau. Sgwrs gyda ffrind byddai ffurf y darn hwnnw, sydd ddim yn bodoli.
Pan dwi’n meddwl am waith Esyllt dwi’n meddwl am y weithred o chwarae fel gweithred sydd â phwer unigryw ac annatod i awgrymu ffyrdd newydd o ddychmygu ac o
siarad gyda’n gilydd.
Mae hon yn arddangosfa wanwynol. Sai’n gwbod os wyt ti’n cytuno? Corff o waith fel amser chwarae, fel sbardun i ysgwyd dy gorff a dy ymennydd yn rhydd o’r llwydni sy’n bygwth bob dydd.
Felly o ddiffyg amser, ac egni, ac awch i efelychu’r awgrym a’r hanner-syniad gwanwynol fel cyfryngau sydd werth rhywbeth, penderfynais byddai fy ymateb i’r gwaith yn cymryd ffurf swmera, linc-di-loncian, cerddetian, mynd [o] dow [i] dow... di-strwythur, hamddenol, spoilt fractured llyfn trwy’r gwahanol lefydd mae’r gwaith sydd o’n cwmpas wedi byw, hyd at heddiw, fan hyn. Dwi’n meddwl mai dyma beth, yn y pen draw, sef yr eiliad hon, yw’r darn dwi’n darllen fel ymateb at y sws mewn pinc. Mynd rownd y gwaith a rhai o’r pethau hudolus mae’n cynnig i ni, mynd ling-di-long, mynd [o] dow [i] dow...
Glasgow.
Nath Esyllt anfon ffeil o un o berfformiadau cyhoeddus cyntaf BWA i fi rhywbryd yn yr haf, a nes i wylio fe siwr o fod yn fy hen dy yn Canton, a chael fy nghyffroi ganddo fe mewn ffordd brin, i weld fy ffrind, a fy iaith, yn y cyd-destun estron hwn, i weld sgwrs fel gêm rhwng dau gorff a dau geg a dwy iaith mewn dinas bell. Geiriau fel tase nw’n taro’n erbyn eu diffiniadau eu hunain, geiriau yn ymestyn eu cyhyrau, a brawddegau’n llifo mewn ac allan o ystyr mewn ffordd oedd fel petai’n
cynnig llwybrau newydd i ddeall fy mherthynas i at fodolaeth y iaith dwi’n ei siarad yn rhan o ecosystem, cae chwarae, ieithoedd y byd.
Ychydig wythnosau nol, on i yn Glasgow am ddwy noson. On i angen brêc, a ges i un. Wrth gerdded lawr y stryd, mae na hen ddyn yn dod lan ato ni, a gweud rhywbeth am gyrls Esyllt, a wedyn rhannu ei farn am wahanol waves ffeministiaeth, a wedyn ymddiheuro, i fi, a gofyn o lle on i di dod.
“Cardiff,” dwi’n gweud
“What’s Cardiff like,” mae’r dyn yn gofyn, a dwi dal i feddwl am y cwestiwn.
Caerdydd.
Am gyfnod ar ddiwedd mis Ionawr bu’r rhan fwyaf o’r gwaith sydd yn yr arddangosfa yma’n byw yn fy stafell sbâr. Roedd ffrind sydd gen i ac Esyllt yn gyffredin yn gyrru o Glasgow i Gaerdydd, a daeth y gwaith gyda hi. Am ychydig ddyddiau cymerodd y cerfluniau a’r darluniau a’r printiau sydd o’n cwmpas ffurf bocsys cardfwrdd a folders du trwchus. Mae’r stafell yna yn Ystum Taf, lle ni’n byw ers rhai misoedd.
Dydy Nico ddim yn deall y gwanwyn. Mae’n gweld blodau pinc yn blaguro a mae’n meddwl mai bwyd yw nhw. Dwi’n gobeithio daw e i ddeall.
Parc chwarae newydd Nico yw Hailey Park. Rhywbryd dros y misoedd nesaf bydd rhan helaeth o’r parc yn troi mewn i orsaf bwmpio carthion. Pan naethon ni symud ges i fy syfrdanu gan ba mor weladwy a holl-bresennol oedd y gwrthwynebiad llawr-gwlad i’r penderfyniad yn y gymuned, i “achub” Hailey Park. Dwi ddim yn gwybod i ba raddau bydd ardaloedd gwyrdd yr ardal yn cael eu trawsnewid, ond dwi’n gwybod bydd yn effeithio gallu’r gymuned i redeg ac ysgwyd yn rhydd, a bod Caerdydd yn llawn o’r fath straeon, o ofodau cyhoeddus yn cael eu
gwasgu, a’u diddymu, a’u diflannu.
Sut le yw Caerdydd. Dinas dwi’n ei hoffi, a dinas sydd fel petai’n benderfynol i’n
tagu. Dinas sy’n ei gwneud hi’n anodd cael munud i feddwl na gofod i redeg yn rhydd, i ysgwyd yn rhydd...
Mae’r gair “receivership” yn awgrymu i fi rhywbeth lot mwy diniwed, hyd yn oed cymwynasgar, na beth mae’n meddwl go iawn. One of Wales' best known shopping centres, Cardiff's Queen's Arcade, is in receiver, ship. Fel relation-ship, neu friend-ship, neu spaceship. Cwch derbyn. Cwch i’r gofod. Sws. Dychmygaf gwch i rywle sydd ddim fan hyn, rhyw agoriad i ddinas sydd ddim am ein gweld ni heb unrhyw le i chwarae’n rhydd, i syniadau tu hwnt i strwythurau clostroffobig y presennol i oroesi, i flodeuo ——
On i ddim yn gwbod sut i orffen y darn yma achos er bo ni yma ar ddiwrnod olaf arddangosfa a diwrnod olaf y gofod hanfodol hwn, nid yw’r pethau yma’n gorffen wir — felly nes i feddwl bysen i’n cal y bardd a’r nofelydd Lisa Robertson i gloi e i fi. o The Baudelaire Fractal: I want to claim this word free for myself and I intend to use it wrongly very often. Here by free I mean that nothing is meant for her. She is outside history, outside poetry, outside theology, outside thought, outside money. Therefore she should claim anything: this was the fundamental recognition of my youth. Freedom must be wrongly performed or it will be irrelevant.

live performance with film, g39 cinema










All photos: Dan Weill + Polly Thomas
